Hanes Wini
Artist o Ben LlÅ·n ydw i, gyda angerdd am gelf a'r greadigaeth. Dwi'n gweithio trwy gyfrwng cymysg, a'n cael fy ysbrydoli gan dirwedd Cymru, hen gartrefi a'r Creawdwr Mawr.

Bywyd A Fu
Dwi wedi bod wrth fy modd gyda chelf a chreu ers bod yn hogan bach, a wedi derbyn anogaeth ac ysbrydoliaeth ar hyd y ffordd. Diolch i bobl fel Miss Griffiths yn Ysgol Morfa Nefyn, Elis Gwyn Jones yn yr Uwchradd, John Baum fy Nhiwtor Cwrs Sylfaen, a Tony Daffern fy nhiwtor BA Dylunio Graffeg, am danio'r sbarc yn y blynyddoedd cyntaf.
Bues i'n gweithio fel dylunudd graffeg am dros 40 mlynedd, nes penderfynu canolbwyntio ar fy ngyrfa celf bersonol. Gadewis y dulliau rheoledig, pwyllog a masnachol yn y gorffennol, a chroesawu dulliau mwy hwyliog, creadigol a rhydd.
Ar hyd y ffordd, dwi hefyd wedi magu dau o blant, dechrau busnesau lleol lwyddianus, gweithio gyda phobl ifanc ag anghenion, a dysgu celf mewn ysgolion.
Bywyd Presennol
Gweadau cyfoethog natur a dylanwad dyn ar y tir yw’r themâu sy’n llifo trwy fy ngwaith. 'Da chi'n siwr o weld fi'n antura o amgylch lonydd cul y gogledd yn y car mawr coch, gyda fy llyfr braslunio, panad o de, a Morus y ci.
Dwi'n darparu gweithdai i blant, oedolion a Chapeli lleol.
Dwi'n gwerthu fy ngwaith celf yn uniongyrchol, yn ogystal â thrwy galeriau a siopau ar draws Cymru.
